Reviews and Ratings for solicitor Elissa Thursfield, Llandudno

Tuesday 8 August 2017

Welsh Not’ ar ei newydd wedd?


Welsh Not’ ar ei newydd wedd?

 

Fel mae sawl un yn ymwybodol neu ddim, yn 1997, pleidleisiodd Cymru dros gael Llywodraeth ei hun ar wahan i Lywodraeth Prydain a Senedd sydd hefo pwerau cyfyngedig i greu deddfau perthnasol I Gymru yn unig. Beth yn union maen nhw’n ei wneud tu mewn i’r adeilad hwnnw sy’n debycach i fadarch na ble caiff cyfreithiau newydd eu creu yng Nghaerdydd felly?

Un o’r deddfau pwysicaf sydd wedi eu creu yno yw’r deddfau sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, a’r ddeddf iaith ddiweddaraf yw Mesur Iaith 2011.

O dan Mesur Iaith 2011 mae gan unigolyn yr hawl i ddefnyddio Cymraeg yng Nghymru fel y mynno.

Anodd yw credu felly bod ffrae am yr hawl i siarad yr iaith Gymraeg wedi codi ym Mangor yr wythnos hon yn siop Sports Direct pan roddwyd nodyn i weithwyr y siop mai Saesneg yn unig oedd i’w siarad wrth weithio.

Yn wir, y ‘Welsh Not’ ar ei newydd wedd.

O safbwynt y cyfraith cyflogaeth, mae rhoi nodyn fel yr un a roddodd Sports Direct i’w gweithwyr o bosib yn anffafrio Cymry Cymraeg yn anuniongyrchol, ac maen debygol y byddai cwmni fel Sports Direct yn ceisio amddiffyn eu hunain yn hynny drwy ddweud ei fod yn ffordd o gyflawni nod dilys o gael pawb yn siarad yr un iaith am reswm penodol, er enghraifft, iechyd a diogelwch.

Ond dadl wael yw honno yn fy marn i, yn enwedig wrth ei rhoi yn y cyd-destun fod Bangor wedi ei leoli yn un o’r ardaloedd mwyaf Cymreig y byd ble mae dros 50% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf. Os nad oes gan unigolyn hawl i siarad ei famiaith yma, sef iaith naturiol yr ardal, mae’n gwbl annerbyniol.

Gellir dadlau fod cwmniau fel Sports Direct yn trin dwy iaith yn y gweithle fel rhywbeth i’w chwarae yn erbyn ei gilydd. Buasai nhw’n gallu dadlau fod cael pobl sydd yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd yn ceisio creu ‘clique’, tra mewn gwirionedd, mae pobl yn siarad Cymraeg am ei fod yn naturiol ac maen nhw’n gwneud hynny heb feddwl dwywaith am y peth.

Beth mae’r ffrae gyda Sports Direct yn ei ddangos yw bod angen cael deddf cryfach ynglyn a’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yng Nghymru. Ar hyn o bryd, dydi’r mesurau iaith sydd yn gosod safonau penodol y maen rhaid i sefydliad eu cyrraedd ond yn effeithio y sector cyhoeddus. Does dim rhaid i gwmni preifat, fel Sports Direct, gyrraedd y safonau yma.

Mae’r cwmni bellach wedi ymddiheuro, ond mae blas eu geiriau “staff must speak English” yn dal yn chwerw yn eu ceg. Nid dim ond her i’r Llywodraeth ydi mynd yn erbyn agwedd cwmniau fel Sports Direct, mae’n her hefyd i bobl gyffredin fel chi a fi i ddefnyddio ein iaith bob cyfle. Daliwch ati!

No comments:

Post a Comment